Adam yn yr ardd

Directions Website Contact the business

Adam yn yr ardd Pum mlynedd yn ôl, aethom ati i brynu ein cartref cyntaf ac ers hynny rwyf wedi sefydlu fy ngardd lysiau newydd fel gwelwch chi ar fy nghyfrif Instagram.

Hanes Garddio

Ers yn ifanc iawn, rwyf wedi meithrin yr angerdd a’r ysfa i ddysgu a thyfu mwy o lysiau, ffrwythau a blodau bob blwyddyn ac erbyn hyn mae gennyf wybodaeth eang o dyfu llysiau a ffrwythau o bob math yn ogystal a thyfu blodau tymhorol, planhigion lluosflwydd a phlanhigion brodorol. Mae hyn hefyd wedi magu’r gallu i adnabod planhigion a sut orau i’w tyfu, datrys problemau sy’n eu hwynebu a chynghori pobl ar sut i fynd ati i gynllunio a sefydlu gerddi newydd. Rwy’n defnyddio’r dechneg dim-palu lle nad wyf yn palu’r ardd o gwbl ond yn hytrach yn ychwanegu haenau newydd o gompost bob blwyddyn. Mae’n nod bersonol gennym i geisio byw bywyd mor hunan-gynhaliol ag sydd yn bosib wrth barchu a diogelu natur yr un pryd. Gardening Background

Since a very young age, I have developed the urge and drive to learn and grow more vegetables, fruits and flowers each year and I now have a wide knowledge of growing vegetables and fruits of all kinds as well as seasonal flowers, perennial plants and native plants. This has helped me develop my skills and knowledge in plant identifaction, growing methods for various plants and problem solving for gardeners. This has allowed me to be able to advise and guide others in planning and establishing their ideal garden. Five years ago, my wife Sara and I bought our first home and since then we have set up our new vegetable garden as you can see on my Instagram account. I use the no-dig method of gardening where I don’t dig the garden at all but instead add new layers of compost each year. It is our personal aim to try to live as self-sufficiently as possible whilst respecting and protecting nature.

15/10/2026
04/10/2026

Clwb Garddio gyda 🌳 Croeso i aelodau newydd 🪏

Llygad yr haul ☀️Bore hyfryd yma bore ’ma.Enw ein tŷ yw Llygad yr haul, enw sy'n dyddio bron 200 mlynedd — ac wrth wylio...
03/10/2026

Llygad yr haul ☀️

Bore hyfryd yma bore ’ma.

Enw ein tŷ yw Llygad yr haul, enw sy'n dyddio bron 200 mlynedd — ac wrth wylio’r haul yn gwawrio dros Gwm Gwendraeth Fawr, mae’n rwydd gweld o ble ddaeth yr enw.

Ry'n ni hefyd yn ceisio arafu a mwynhau’r bennod newydd hon, yn enwedig ar ôl prysurdeb symud tŷ eleni. Mae’n braf cael yr amser a’r lle i werthfawrogi’r pethau bach — fel boreau fel hyn.

-

A beautiful start to the day here this morning.

Our house is called Llygad yr haul, (a name that's belonged to our house for over 200 years) which means “the eye of the sun” in Welsh — and watching the sun come up over Cwm Gwendraeth Fawr, it’s easy to see where the name came from.

We're also finally trying to slow down and enjoy our next chapter, especially after the upheaval of moving house this year. It's lovely having the tine and space to appreciate the small things - such as mornings like these.

02/10/2026

Mae wastad yn bleser croesawu Meithrinfa Cae'r Ffair Nursery draw i ardd gymunedol Tabor yn Cross Hands.

Prosiect hyfryd sy'n cyflwyno'r ardd i'r gymuned ac yn dathlu'r Gymraeg yr un pryd, diolch i weledigaeth a chefnogaeth Menter Cwm Gwendraeth Elli

-

It's always a pleasure welcoming the little ones to our community garden in Cross Hands to learn all about growing healthy food.

Thanks to Menter Cwm Gwendraeth Elli's vision of bringing this former vestry back to life as a central part of the community and a great focal point to celebrating our language as well 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿👌

Fideo newydd gyda Adam yn yr Ardd ar ein sianel YouTube heddiw! 🌸Dyma gyfle i ddysgu lliwiau wrth grwydro drwy flodau ha...
30/09/2026

Fideo newydd gyda Adam yn yr Ardd ar ein sianel YouTube heddiw! 🌸
Dyma gyfle i ddysgu lliwiau wrth grwydro drwy flodau hardd gyda Dewin.
Pa liwiau weli di? 🎨
Clicia ar y linc i wylio! - https://youtu.be/itIzWf1Ue8A

New video with Adam yn yr Ardd (in the garden) on our YouTube channel today! 🌸
Here’s a chance to learn colours while exploring beautiful flowers with Dewin.
What colours can you see? 🎨
Click the link to watch! - https://youtu.be/itIzWf1Ue8A


Adam yn yr ardd Mudiad Meithrin Cymraeg i blant : Cymraeg for kids Clwb Cwtsh

Diolch yn fawr i bawb am ddod i’r clwb garddio dros yr haf. Diolch mawr hefyd i Adam yn yr ardd am arwain. Cadwch lygaid...
30/09/2026

Diolch yn fawr i bawb am ddod i’r clwb garddio dros yr haf. Diolch mawr hefyd i Adam yn yr ardd am arwain.

Cadwch lygaid allan ar raglen Garddio a Mwy ar S4C am fwy o wybodaeth o beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen yng nghlwb garddio’r haf.

Bydd y clwb garddio nesaf yn cwrdd ar y 12fed o Fedi am 9:30yb. Croeso cynnes i bawb.

30/09/2026

Ar ôl cyfri y pili pala, be am weld pwy arall sy'n cuddio yn yr ardd? 👀🌿🦋

▶️ Gwylia yma: https://youtu.be/qNsxnzMYw9c

///

After counting butterflies, why not see who else is hiding in the garden? 👀🌿🦋

▶️ Watch here: https://youtu.be/qNsxnzMYw9c

Butterfly Conservation Adam yn yr ardd

30/09/2026

A dyna ni am eleni! 💚

Diolch ENFAWR i bawb sydd wedi bod yn gwylio Garddio a Mwy dros y gyfres, ac i bawb sydd wedi bod yn dilyn, hoffi, rhannu a sgwrsio efo ni yma ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd. Mae wedi bod yn braf iawn cael rhannu’r gyfres efo chi i gyd! 🌸🌿

Mi fyddwn ni’n ôl ar eich sgrin flwyddyn nesaf, ond peidiwch â mynd yn rhy bell… fydd y dudalen ddim yn mynd i gysgu’n llwyr dros y gaeaf! 👀🪴

Mi fyddwn ni’n galw heibio o dro i dro gyda mwy o gynnwys a tips garddio!

Diolch am wylio, a welwn ni chi’n fuan! 💚

26/09/2026

It's time to plant your spring bulbs 🌷

What bulbs are you planting this year? Let me know in the comments!

24/09/2026

Mae'n amser ichi blannu'r bylbiau ar gyfer y gwanwyn 🌷🪻

Address

Badminton Estate
Badminton
GL91DD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Adam yn yr ardd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Adam yn yr ardd:

Shortcuts

Share

Category