20/07/2023
Carreg Filltir - 1 GWh ⚡️
Ers 2019, mae’r rhan fwyaf o systemau solar yda’ ni wedi eu gosod yn cael eu monitro. Heddiw, mae’r systemau yma ar y cyd wedi cynhyrchu dros
1 GWh o drydan.
1GWh = 1,000,000 Kwh
Yn ôl Ofgem, y defnydd cyfartalog o drydan ym mhob eiddo ydi 2,900kwh.
Mae 1 GWh yn ddigon i bweru 344 o dai am flwyddyn.
Ymlaen i’r GWh nesa ☀️